Mari LunedLLWYDYn dawel a heddychlon ar ddydd Sadwrn 27ain Chwefror 2021, Mari, Hafan Y Waun, Aberystwyth (Llangwyrfon gynt). Mam annwyl Gwion, Mared a'r diweddar Meilyr; mam yng nghyfraith garedig Scherry ac Elgan; mamgu cariadus Deio, Leusa, Casi a Cadog; chwaer hoffus Megan a Manon; cyn-wraig a chyfaill Rheinallt; chwaer yng nghyfraith, modryb a ffrind addfwyn. Oherwydd cyfyngiadau presennol Covid-19, cynhelir gwasanaeth hollol breifat, i'r teulu agos yn unig, ar ddydd Mercher 10fed Mawrth 2021. Croesawir cyfraniadau er cof am Mari, os dymunir, tuag at Gartref Gofal Hafan Y Waun trwy law D J Evans Cyfarwyddwyr Angladdau, Kairali, Penrhyncoch, Aberystwyth SY23 3EQ. Tel: 01970 820249. Arian parod, neu sieciau'n daladwy i 'Hafan Y Waun'. .
Keep me informed of updates